Newyddion

poster

Dydd Llun 27ain o Fawrth, 2017
10yb - 7yh

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020 Y Cynllun Buddsoddi Mewn Busnesau Bwyd - 3ydd Rownd ar agor. Am fwy o wybodaeth:

Dechrau’r cyfnod ymgeisio: 2 Tachwedd 2016.
Diwedd cyfnod ymgeisio: 18 Ionawr 2017.
Gwerth: £2,800,000.
Grant Mwyaf: Caiff ymgeiswyr wneud mwy nag un cais yn ystod y cyfnod y bydd y cynllun ar gael, ond dim ond un cais gaiff fod yn y system ar yr un pryd.
Grant Lleiaf: £2,400

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Pam ddim siopa am eich bwyd o dan un tô? Mae’r holl fwyd a diod a werthir yn y siop yn gynnyrch lleol o sir Conwy.

Ar agor pob dydd Gwener a dydd Sadwrn (Medi – Rhagfyr).

Am fwy o fanylion - cliciwch yma

Marchnad Cynnyrch Conwy Naturiol – Datganiad i’r Wasg

Daily Post - cliciwch yma

Cyfieithiad yma yn fuan...

On September the 9th, a new and exciting trial for 14 local producers will begin. The producers, who are all from, and produce food and drink in the county of Conwy, will team up and work together for 4 months to highlight, showcase and sell their produce.

Through working with Conwy County Borough Council, and Communities First, the producers will take over a shop in the town centre from September, through to December, initially opening two days every week.

Every Friday and Saturday customers to the shop will be able to buy meat, fruit, vegetables, yogurt, cooking oils, beer, bread, cakes, biscuits, gin, eggs, and other food in doing so, support the local economy.

During the 4 month trial, local restaurants and hotels will also be invited to come and meet the producers and taste the food in a bid to encourage more local produce to be sold in local eateries.
One of the producers taking part in the project is Anthony Griffiths from the Llanrwst based Scilicorns Bakery who said “this is a fantastic opportunity for us as local producers to work together to highlight the quality of the food that we can produce here in Conwy”

Cllr Dilwyn Roberts, leader of the council who will officially open the shop on Friday praised this initiative and says everyone should be encouraged to support local shops and local producers wherever, and whenever they can, and by doing so, we celebrate the high quality foods that are produced here in the county of Conwy.

All the producers are members of the Conwy food forum.

For more information on the Conwy Food Forum contact Rhys Evans on 01492 576671 or email conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk.

Mae Grwpiau Gweithredu Lleol Sir Ddinbych a Chonwy yn chwilio am aelodau ar gyfer grwp llywio newydd yn ardal Hiraethog. Bydd y grwp llywio yn canolbwyntio ar ddatblygu a cheisio am arian ar gyfer prosiectau sydd o fudd i ardal Hiraethog. Bydd y grwp llywio yn cynnwys 8 aelod o'r ardal ac rydym yn edrych am ddatganiadau o ddiddordeb gan unigolion sy'n gweithio ac / neu yn byw yn ardal Hiraethog i fod yn rhan o hyn.

Dylai unigolion sydd â diddordeb o Sir Ddinbych gysylltu â Silas Jones yn Cadwyn Clwyd ar 01490 340500 neu e-bostiwch silas.jones@cadwynclwyd.co.uk

Dylai unigolion sydd â diddordeb o Sir Conwy gysylltu ag Elen Edwards yng Nghonwy Cynhaliol ar 01492 576670 neu e-bostiwch conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk

leaflet

Mae’r cynnig gwaredu plaladdwyr ar gael yn Nalgylch Yr Alwen.

Cysylltwch gyda David Prysor Jones Ymgynghorydd Dalgylch ar 07495 292561

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

Pwyntiau Trydan Gwefrio Cerbydau Ydych chi'n Fusnes, Grwp Cymunedol neu’n Gyrchfan i Dwristiaid a fyddai â diddordeb mewn cynnal pwynt Trydan Gwefru Cerbydau (Electric Vehicle Charge point), fel rhan o rwydwaith sy'n tyfu ar hyd a lled Sir Conwy?

Mae Conwy Cynhaliol yn awyddus i ariannu treialon mewn safleoedd strategol allweddol ar draws ardal wledig Conwy am 6 mis. Byddai’r prosiect yn talu am brynu, gosod ac unrhyw gostau rhedeg eraill drwy gydol y treial a bydd y dewis ar gael i’r busnes / fenter i gymryd perchnogaeth o'r pwyntiau os yw'r arbrawf yn llwyddiannus.

Mae'r unedau gwefrio cyflym hyn wedi'u cynllunio i wefrio cerbydau trydan gydnaws o 0-80% mewn tua 20-30 munud ac yn ddelfrydol ar gyfer ymwelwyr neu siopwyr i wefru eu ceir.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i fod yn rhan o'r treial hwn, cysylltwch â 01492 576673 neu conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk

poster

Ydych chi’n byw mewn cymuned wledig ac ydy dementia yn effeithio arnoch chi? Hoffai’r Gymdeithas Alzheimer roi cyfle i bobl y mae dementia yn effeithio arnyn nhw sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru, rannu eu profiadau, yn gyfrinachol ac yn ddienw.

Cysylltwch â Hayley Horton am fwy o wybodaeth ar 01248 671125 neu 07711561170.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

GWAHODDIAD I’R SECTOR GOEDWIGAETH YNG NGHONWY
Nos Fawrth, 17eg o Fai yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy
Cyfarfod i ddechrau am 7.00 gyda bwffe ysgafn i ddilyn.

Trafodir:
- Cynllun LEADER Conwy
- Cyflwyniad gan swyddog Coedwigaeth Cyswllt Ffermio

Cadarnhewch wich presenoldeb trwy gysylltu â Laura Fisher ar 01492 576673 neu e-bostiwch ConwyLocalActionGroup@conwy.gov.uk

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned / Busnes?

Mae’r prosiect Conwy Cynhaliol, y rhaglen LEADER ar gyfer Conwy wledig, bellach yn gweithredu’n llawn ac mae'n galw am syniadau prosiect cyffrous ac arloesol.

Cynlluniwyd y rhaglen i gael pobl, busnesau a chymunedau lleol i gymryd rhan a chefnogi prosiectau newydd arloesol a phrosiectau peilot sy'n ceisio treialu syniadau newydd sydd o fudd i'r ardal a'r economi wledig.

Dywedodd Rhys Evans, swyddog Cadwyn Gyflenwi a Chefnogi Busnes, “Mae gan ddiwydiannau cynradd ran bwysig yn atgyfnerthu'r economi lleol yma yng Nghonwy, ac mae treialu cysyniadau, cynhyrchion a syniadau newydd yn bwysig er mwyn i fusnesau lleol dyfu a datblygu.”

Mae'r mathau o brosiectau a allai gael eu hariannu yn cynnwys prosiectau peilot – gweithgareddau ar raddfa fach gydag amserlenni tynn sy’n ceisio profi cysyniad neu roi cynnig ar dechneg arloesol; astudiaethau dichonoldeb i ymgymryd ag ymchwil ar faterion neu broblemau penodol.

Bydd cefnogaeth hwyluso a mentora yn cael ei chynnig i sefydliadau a grwpiau i helpu datblygu eu sgiliau a'u harbenigedd.

Nid yw hwn yn gynllun grantiau ond mae’n ceisio defnyddio dulliau arloesol i helpu cymunedau i fynd i'r afael â'r angen yng Nghonwy wledig drwy ddatblygu gwasanaethau sylfaenol, creu pentrefi cynaliadwy, gwydn a gwella'r amgylchedd lleol.

Mae Conwy Cynhaliol yn galw am brosiectau sy’n ymwneud â’r themâu canlynol;
- Lleihau unigedd ac amddifadedd mewn cymunedau
- Gwella darpariaeth a mynediad i wasanaethau sylfaenol
- Manteisio i'r eithaf ar y ddarpariaeth treftadaeth a thwristiaeth
- Gwella darpariaeth a mynediad i gludiant
- Gwella cydlyniad cymunedol
- Datblygu mathau newydd a gwahanol o fusnesau a swyddi a'r gadwyn gyflenwi

“Mae hwn yn gyfle gwych i dreialu ffyrdd arloesol a gwahanol o ddarparu gwasanaethau, cynyddu gwydnwch a diogelu ein cymunedau. Bydd rhai o'r cynlluniau peilot hyn yn llwyddiannus a gelir efelychu’r cysyniad mewn mannau eraill. Mae'n ymwneud â threialu, dysgu a rhannu gwybodaeth,” meddai Ela Williams y Swyddog Cymuned, Diwylliant a Threftadaeth.

Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect arloesol nad yw’n bodoli yn eich ardal, cysylltwch â thîm Conwy Cynhaliol i drafod eich syniadau project ar 01492 576673 neu e-bostiwch GrwpGweithreduLleolConwy@conwy.gov.uk
Neu ewch i'n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf www.conwywledig.org.uk

DIWEDD
Ariennir Conwy Cynhaliol yn rhannol trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth bellach:
www.conwywledig.org.uk
GrwpGweithreduLleolConwy@conwy.gov.uk
01492 576673


Cyfle anhygoel i redeg Fferm gyda chymorth gan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Clwb Ffermwr Ifanc Cymru.

Dyddiad cau ceisiadau ar y 6ed of Fai

Dilynwch y linc am fwy o wybodaeth: http://www.nationaltrust.org.uk/news/llyndy-isaf-scholarship-opportunity

#CFI

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod tair cronfa gyllido, sy'n werth cyfanswm o dros £3 miliwn, bellach ar agor i geisiadau gan y diwydiant twristiaeth.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Mae Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi bod nifer o drefniadau cymorth newydd yn cael eu cyflwyno a fydd yn galluogi ffermwyr, coedwigwyr a physgotwyr i fanteisio ar filiynau o bunnoedd o gyllid Ewropeaidd.

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y bydd yn trefnu i’r cynlluniau isod fod ar gael ymhen y mis:

  • Cynllun Datblygu Cynaliadwy
  • Agor cyfnod ychwanegol ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
  • Ail gyfnod ar gyfer y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy
  • Agor cyfnod ychwanegol ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig
  • Cynllun Creu Coetir Glastir a cynllun Adfer Coetir Glastir
  • Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Coed

Am fwy o wybodaeth: cliciwch yma

Mwynhaodd aelodau tîm Conwy Cynhaliol ddiwrnod gwych yn "Cynnig Bwyd Anturus ar gyfer 2016" a gynhaliwyd gan Bwyd a Diod Cymru yng Nglasdir, Llanrwst.

Gyda dros 170 o gynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru, roedd yn gyfle gwych i gwrdd â chynhyrchwyr presennol a newydd.

Roedd yr arddangosfa wedi profi i fod yn llwyddiant ar ôl i 'Conwy Naturiol' sicrhau dau o gynhyrchwyr newydd o Gonwy i ymuno â'r brand (mwy o wybodaeth i gael ei rhyddhau yn fuan). Yn ogystal â chreu cysylltiadau newydd, roedd yn gyfle gwych i ddal i fyny a rhwydweithio gyda chynhyrchwyr presennol.

Ar ôl cerdded o amgylch y stondinau yn blasu a samplu holl ddanteithion blasus oedd ar gael, cafodd gwesteion a chynhyrchwyr eu gwahodd i flasu cinio bwffe blasus wedi'i wneud o gynnyrch lleol.

Mae Conwy Naturiol nawr yn mynd ati i chwilio am fwy o gynhyrchwyr bwyd a diod sy'n tyfu, magu neu gynhyrchu eu cynnyrch yng Nghonwy i ymuno â'r brand, gan helpu i greu llwyfan gwerthu i gynhyrchwyr lleol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r brand 'Conwy Naturiol', neu os ydych yn adnabod cynhyrchwr a allai gael budd, cysylltwch â Rhys Evans am fwy o wybodaeth ar 01492 576671 neu e-bostiwch conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk.

poster

Rydym wedi penderfynu cyhoeddi galwad arall am syniadau i redeg ochr yn ochr ar alwad am syniadau o gwmpas ‘Darpariaeth a / neu fynediad i gludiant’.
Y rheswm am hyn yw er mwyn gobeithio ennyn mwy o ddiddordeb ag y bydd y ddau alwad yn gallu atgyfnerthu a phlethu ai gilydd.

Rydym felly yn cyhoeddi galwad am syniadau o gwmpas:

Lleihau unigedd ac amddifadedd mewn cymunedau

Y dyddiad cau i dderbyn syniadau yw Dydd Gwener yr 8fed o Ionawr, 2016

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Gall unigolion, clybiau a sefydliadau ac ati, mewn ardaloedd gwledig sydd angen mynediad i wybodaeth a gwasanaethau, brynu cyfrifiaduron gwbl weithredol cyn-lywodraeth am gyn lleied â £130. Mae'r cyfrifiaduron yn cael eu gwneud ar gael trwy Ganolfan Arthur Rank. Mae hon yn uned ar y cyd a gefnogir gan yr Eglwysi Cenedlaethol, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr a Sefydliad Rank. Ar gyfer sefydliadau sydd angen mwy nag un cyfrifiadur; e.e. ar gyfer canolfan galw i mewn, ysgolion ac ati, mae'r prisiau hyd yn oed yn is.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cefnogi Busnes Conwy

poster

Cymerwch olwg ar sut all “Cefnogi Busnes Conwy” eich helpu chi…

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Digwyddiad Ymgynghori: A yw’r arweiniad yn ateb eich cwestiynau ynglyn â rhandiroedd a phrosiectau a arweinir gan y gymuned?

Bydd digwyddiadau ymgynghori yn cael ei chynnal yng Nghonwy, ym Merthyr Tudful ac yng Nghaerfyrddin ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i chi leisio unrhyw sylwadau, gwneud awgrymiadau a gwneud ymholiadau am unrhyw faterion sy’n codi o’r arweiniad.

Amlygodd papur Llywodraeth Cymru ‘Gwella argaeledd rhandiroedd a gerddi cymunedol’ a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014 yr angen am arweiniad cyfredol, er mwyn helpu cymunedau ledled Cymru i elwa ar gyfleoedd tyfu cynyddol. O ganlyniad, crëwyd arweiniad ar ffurf drafft gan Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol. Mae’r arweiniad wedi’i ysgrifennu ar gyfer awdurdodau lleol ac ar gyfer sefydliadau cymunedol. Rydym bellach yn ceisio eich syniadau a’ch barn yn ei gylch a hoffem eich gwahodd i un o dri digwyddiad ymgynghori.

Mae copi drafft o’r arweiniad ar gael i’w lawrlwytho yma a byddem yn argymell yn gryf eich bod yn ei ddarllen cyn mynychu. Mae’r ddogfen wrthi’n cael ei chyfieithu, a byddwn yn gwneud ar gael y fersiwn Gymraeg yn fuan.

Os na fyddwch yn gallu mynychu, hoffem glywed eich safbwyntiau ynghylch yr arweiniad beth bynnag, Gallwch lenwi’r holiadur Survey Monkey, gan gwblhau arolwg newydd ar gyfer pob pennod.

Lle: Rhagfyr 2ail, 2015 10:00 YB tan 1:30 YP
Lleoliad: CAIS, Station Court, 41-43 Station Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8BP

Darllenwch mwy yma

Gweler isod dolen i adnoddau am ddim sydd ar gael gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a allai fod o ddiddordeb i chi neu fusnesau yng Nghonwy.

Mae cwrs 30 awr ar-lein am ddim ar ‘Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru’- cliciwch yma

Amcanion dysgu'r cwrs yw:-

  • Deall pwysigrwydd sut mae byw yng nghefn gwlad yn dylanwadu ar amcanion eich busnes neu fenter gymdeithasol
  • Archwilio dichonoldeb syniad busnes
  • Cynllunio strategaeth ar gyfer datblygu eich cwmni
  • Datgan yr adnoddau a'r galluoedd tebygol sydd eu hangen ar gyfer eich busnes newydd a deall ble mae'r bylchau yn debygol o ddigwydd

Bydd WYTHNOS FUSNES CONWY, 16 – 20 Tachwedd - yn dathlu’r Sir a’r busnesau sy’n gweithredu yma ac yn helpu i gefnogi busnesau lleol a’u gweithluoedd drwy gynnig ystod o weithdai, siaradwyr ysbrydoledig a thrwy dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i fusnesau.

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma

Darpariaeth a / neu mynediad i gludiant

poster
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn weithio fel rhan o dîm sy’n gyfrifol am sefydlu, darparu a rheoli prosiectau dan Gynllun Datblygu Gwledig Conwy.

Bydd y swyddog yn gweithio'n agos gyda grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau partner eraill i ysgogi a hyrwyddo gwaith y Grwp Gweithredu Lleol yng Nghonwy.

Dyddiad Cau – 29/10/15

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma

Help i fuddsoddi mewn prosesu/marchnata a/neu datblygu cynnyrch amaethyddol.
Buddsoddi cyfalaf gan fusnesau prosesu sy'n defnyddio cynnyrch amaeth amrwd a/neu gynnyrch sydd wedi'i brosesu trwy'r cam cyntaf.
Mae'r cynllun hwn yn rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020 sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ffenestr yn agor i Ddatganiad o Ddiddordeb – 20fed o Gorfennaf 2015

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth:

Gwasanaethau sylfaenol ac adfywio pentrefi mewn ardaloedd gwledig.
Helpu:
- prosiectau seilwaith bach (gan gynnwys ynni adnewyddol)
- gwella neu ehangu gwasanaethau lleol sylfaenol a/neu amwynderau cyhoeddus.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020 sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ffenestr yn agor i Ddatganiad o Ddiddordeb – 20fed o Gorfennaf 2015

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth:

Help i fuddsoddi i wella perfformiad a chynaliadwyedd daliadau amaethyddol. Buddsoddi cyfalaf gan fusnesau amaeth a gwenynwyr masnachol, gan gynnwys ar, Eidion, cynnyrch llaeth, geifr, garddwriaeth (gan gynnwys hydroponeg ac acwaponeg), moch, dofednod, defaid, cadw gwenyn.

Mae'r cynllun hwn yn rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020 sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ffenestr yn agor i Ddatganiad o Ddiddordeb – 27ain o Gorfennaf 2015

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth:

Buddiolwr arall Cynllun Datblygu Wledig Conwy wedi gwneud y wasg http://www.s4c.cymru/clic/c_level2.shtml?programme_id=524118687

Mae prosiectau â chyfanswm buddsoddiad o £350,000 dan Gynllun Datblygu Gwledig Conwy wedi derbyn cefnogaeth yn y tair blynedd diwethaf. “Mae hyn yn swnio fel llawer ond mae gwir fygythiad i wenyn a’r effaith ddilynol ar yr economi.” Meddai Elen Edwards, Rheolwr Strategaeth Datblygu Gwledig Conwy “Mae gwyddonwyr wedi amcangyfrif y byddai’r gost o golli gwenyn a phryfed peillio mor uchel â £440m y flwyddyn a gall gyfateb â hyd at 13% o gyfanswm gwerth ffermio ar draws y wlad. Mae diogelu ein peillwyr yn hanfodol.”


£200,000 ar gyfer Canolfan Cadw Gwenyn Cenedlaethol Cymru


Sefydlwyd Canolfan Cadw Gwenyn Cenedlaethol Cymru yn 2012 yn Nyffryn Conwy, i hyrwyddo arfer da, gwybodaeth gyhoeddus gywir a hygyrch, a gweithredu cymunedol i gefnogi’r diwydiant cadw gwenyn ledled Cymru. Roedd hyn yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Gynllun Datblygu Gwledig Conwy a ariannodd yr arddangosfeydd llawn gwybodaeth a hwyl yn y ganolfan ymwelwyr a chyflogau’r gweithwyr ar gyfer y cyfnod cychwynnol.


Cydweithio ar draws ffiniau i ddiogelu gwenyn


Mae cymunedau o 46 tref a phentref ar draws Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint hefyd wedi gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu gwenyn a phryfed peillio eraill yng Ngogledd Cymru.
Mae’r prosiect Datblygu Gwledig hwn am £140,000 wedi’i arwain gan Gonwy i ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth o’r bygythiad i wenyn a phryfed peillio, i addysgu ynglŷn â chymryd camau cadarnhaol i ddiogelu’r rhywogaeth a hyfforddi gwenynwyr newydd. Mae ymchwil yn dangos bod gostyngiad o 23% yn y gwenyn mêl yng Nghymru rhwng 1985 a 2005. Mae gloÿnnod, pryfed hofran a nifer o rywogaethau o wyfynod hefyd yn gostwng ledled Cymru. Mae dolydd blodau gwyllt a chynefinoedd lled-naturiol eraill sy’n cefnogi peillwyr hefyd wedi gostwng yn yr ardal.


Plannu i ddenu gwenyn peillio


Mae miloedd ar filoedd o hadau a phlanhigion plwg gyda rhai o’n hoff rywogaethau blodau gwyllt brodorol, megis Briallu Mair, Blodau’r Wig, Heboglys Euraid a Blodau’r Brain wedi’u plannu yng ngerddi ysgolion, gwarchodfeydd natur, ymylon rheilffyrdd, ar hyd ymylon ffyrdd ac mewn parciau ac ardaloedd chwarae. Mae 15,000 o fylbiau'r lili wen fach wedi’u plannu ym Mharc Gwydyr yn Llanrwst.
Mae rhai ysgolion wedi plannu perllannau afalau neu ffrwythau cymysg, eraill wedi plannu gerddi perlysiau a borderi blodau cymysg sy’n llawn o lwyni a phlanhigion sy’n denu pryfed peillio. Plannwyd 6000 o fylbiau clychau’r gog mewn un diwrnod yn yr ysgolion yn ystod y digwyddiad “On your Knees for Bees” gydag Iolo Williams, sy’n hoff o fyd natur ac yn gyflwynydd bywyd gwyllt ar y teledu.


Ymgysylltu â Phlant a Theuluoedd


Roedd Tŷ Hyll Cymdeithas Eryri wedi recriwtio Cydlynydd Digwyddiadau i drefnu diwrnodau gweithgareddau’r ysgolion, diwrnodau Gwenyn i Deuluoedd, a diwrnodau agored gerddi sy’n denu pryfed peillio. Roedd 7 ysgol gynradd wedi ymweld â’r safle gyda phlant yn gwrando ar sgwrs ynglŷn â gwenyn ac yn ymweld â’r cychod gwenyn cyn cymryd rhan mewn helfa gwenyn a chwis yn yr ardd, gan wneud gwestai bychain i wenyn a rholio canhwyllau cŵyr gwenyn i fynd adref gyda nhw. Roedd y prosiect wedi derbyn cryn dipyn o gyhoeddusrwydd gan y cyfryngau gyda gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri o Dŷ Hyll yn rhoi 2 gyfweliad ar Radio Cymru a chroesawu Mr Bloom o CBeebies y BBC i ffilmio a nifer o erthyglau bychain eraill yn y wasg.


Cenhedlaeth newydd o wenynwyr


Mae cadw gwenyn wedi bod yn rhan draddodiadol o ffermio ac mae’n allweddol i les y gwenyn bod y traddodiad hwn yn parhau. Yn gynnar yn y prosiect cadw gwenyn, sylwodd un o aelodau’r grŵp llywio, Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coetir ac Amaethyddiaeth ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri, nad oedd gwenynwyr ifanc yn y grŵp ymgynghori. “Ymchwiliwyd pam nad oedd gennym wenynwyr ifanc ac yna bûm yn gweithio gyda Chymdeithas Cadw Gwenyn Meirionnydd i lunio rhaglen hyfforddi a datblygu i gefnogi gwenynwyr ifanc newydd. Mae naw o ffermwyr ifanc, 17-37 oed, wedi cwblhau’r hyfforddiant ac yn awr mae ganddynt gychod gwenyn eu hunain. Maent ar fin dechrau eu tymor llawn cyntaf gyda’u gwenyn a gobeithiwn gynnal hyfforddiant pellach yn canolbwyntio ar gasglu mêl a marchnata.”

Gall bob un ohonom gyfrannu i ddiogelu a chefnogi ein gwenyn mêl – plannu planhigion sy’n denu pryfed peillio yn eich gerddi, gadael i rai llygaid y dydd a dant y llew a blodau gwyllt eraill dyfu a chadw golwg am fêl lleol blasus yn y siopau.

AGOR PAFILIWN CYMUNEDOL GWERTH £275 MIL WEDI EI ARIANNU GAN Y CYNLLUN DATBLYGU GWLEDIG

Daeth trigolion y gymuned, arweinwyr y Cyngor, staff y Cynllun Datblygu Gwledig ac aelodau Grŵp Gweithredu Lleol Conwy ar brynhawn rhewllyd i weld y Pafiliwn cymunedol newydd yn Llanefydd ddydd Iau diwethaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Cadeirydd y Grŵp Gweithredu Lleol: “Mae prosiectau fel hwn yn brawf o gymeriad y gymuned - ac mae’r gymuned yma wedi profi ei hun.  Drwy weithio efo’i gilydd maen nhw wedi creu rhywbeth a fydd yn helpu i gynnal eu cymuned i’r dyfodol.  Mi ddylai pawb fod yn falch iawn o’u llwyddiant.”

Cafodd y syniad am y pafiliwn ei drafod am y tro cyntaf mewn gwerthusiad cymunedol yn 2009 a chafodd grŵp Menter Nefydd ei ffurfio’n fuan wedyn.  Gyda chyllid gan brosiect Conwy Cynhaliol y Cynllun Datblygu Gwledig, WREN, Chwaraeon Cymru a Chartrefi Conwy, yn ogystal â swm sylweddol y llwyddodd y gymuned ei hun i’w godi, mae'r Pafiliwn sy’n werth £275 mil yn llwyddiant gwirioneddol ac yn ased i’r gymuned yn y tymor hir. 

Bu i bob siaradwr roi canmoliaeth fawr i Beryl Morris, Ysgrifennydd Menter Nefydd.  Dywedodd Stuart Whitfield o brosiect Conwy Cynhaliol, Cynllun Datblygu Gwledig Conwy "Er bod grant yn gallu talu am adeilad, all grant ddim prynu’r ymroddiad a'r ymrwymiad y mae Beryl wedi ei roi i'r prosiect wrth wneud yn siŵr fod hyn yn digwydd.  Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cael gweithio efo Beryl a gweddill y grŵp yn cyflawni’r cyfleuster cymunedol newydd gwych yma.”

Yn ddiymhongar ddigon, ymateb Beryl Morris oedd dweud fod “y gymuned wedi bod y tu ôl i ni ar hyd y daith.  Mae'r bobl ifanc wedi bod yn ofnadwy o frwdfrydig – maen nhw hyd yn oed wedi gwneud rota glanhau yn barod.   Ac mae Stuart Whitfield a Neil Pringle o'r Cynllun Datblygu Gwledig wedi bod yn wych o ran eu cymorth a’u cefnogaeth.”

Mae’r Cynghorydd Chris Hughes, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, yn cofio chwarae pêl-droed ar y cae yn Llanefydd pan oedd yn blentyn: “Mae wedi newid tipyn ers pan ô’n i’n chwarae pêl-droed yma yn fachgen - bryd hynny roedd yn rhaid newid ar y cae.  Ond roedden nhw bob amser yn dîm gwych!  Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i bawb oedd yn rhan ohono ac mae'n dda gweld prosiectau sy'n helpu i sicrhau cynaliadwyedd cymunedau gwledig.”

Mae’r Cynghorydd Ronnie Hughes hefyd yn cofio dod â thîm i fyny o Landudno i chwarae yno yn fwy diweddar.  Wrth i’r hogiau ddod o'r bws a gofyn lle'r oedd yr ystafelloedd newid – byddai pawb yn pwyntio at y cynhwysydd ar y cae a dweud “yn fan’na”.  Wrth iddyn nhw ddechrau cerdded tuag at y cynhwysydd, bydden nhw’n cael eu stopio gan rywun yn dweud "fedrwch chi ddim mynd i mewn, mae’r tîm cartref yn newid rŵan!" Byddai’r rhan fwyaf yn mynd yn ôl i’r bws mini i newid.   Daeth i'r casgliad “Mae'r cyfleusterau erbyn hyn cystal, os nad gwell, na chyfleusterau timau’r gynghrair uchaf.”  Llanefydd oedd yr unig dîm yn eu cynghrair o 30 heb unrhyw ystafelloedd newid tan rŵan.
Mae'r Pafiliwn yn cynnig cyfleusterau ystafelloedd newid, toiledau a chawodydd ar gyfer timau cartref ac oddi cartref, ac ystafell ar wahân ar gyfer dyfarnwyr yn ogystal â chegin fach ar gyfer paratoi a gwerthu lluniaeth.  Byddai rheoliad newydd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru wedi golygu na fyddai CP Llanefydd wedi gallu symud ymlaen yn y gynghrair heb ystafelloedd newid gan ddechrau eleni. Mae'r tîm pêl-droed wrth eu boddau gyda'r cyfleusterau newydd.

 

Mae manteision cynllun grant ffermydd a lansiwyd yng Nghonwy ym mis Tachwedd yn dechrau cael eu gwireddu, gyda deunaw o ddaliadau yn cael eu cefnogi i gyflwyno prosesau newydd i'w busnesau.

Agorodd Cynllun Grantiau Bach Gwella Ffermydd Conwy am gyfnod byr y llynedd, a gwahoddwyd ceisiadau gan fusnesau fferm ar draws cefn gwlad Conwy a oedd wedi nodi ffyrdd o wella cynhyrchiant o dan bedair thema; lleihau costau cynhyrchu, gwella effeithlonrwydd ynni, gwella lles anifeiliaid a gwella diogelwch ar y fferm a sicrwydd. Cafodd y cynllun ei weinyddu gan brosiect Conwy Cynhaliol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi'i leoli yn Llanrwst, a chafodd ei ariannu drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig.

Dywedodd swyddog y prosiect Gethin Owen "Mae angen i fusnesau ffermio fuddsoddi yn y broses o foderneiddio eu daliadau i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, i liniaru effeithiau'r dirywiad tymor hir yn y gwerth gwirioneddol o enillion giât y fferm. Cafodd y cynllun ei sefydlu i gynorthwyo ffermwyr yng nghefn gwlad Conwy i gyflawni hyn drwy weithredu syniadau a thechnegau arloesol newydd sy'n rhoi gwerth da am arian. Mae'r prosiectau a ariannwyd yn helpu tuag at ddiogelu cynaliadwyedd yn y dyfodol a hyfywedd ffermydd Conwy”

Mae cyllid o hyd at 50% ar gael i gyflwyno gwelliannau ar draws y sir o Lanfairtalhaiarn i Benmachno. Roedd yr offer a brynwyd yn cynnwys lladdwr chwyn llai dwys sy'n trin chwyn glaswelltir, gan leihau faint o chwynladdwr sydd ei angen, offer symudol trin defaid a gwartheg, matiau rwber er mwyn ei gwneud yn fwy cyfforddus i wartheg, a threlar bwydo hyd at 50 o loi. Er bod rhai o'r gwelliannau yn ymwneud â gweithgarwch tymhorol, mae eraill, fel corlannau symudol trin defaid, yn effeithio ar gynhyrchiant yn syth.

Un fferm sy’n disgwyl am fuddion yn ystod y tymor tyfu glaswellt yw Ty'n-y-Coed Uchaf, Penmachno. Cymerodd Sian a Llion Jones denantiaeth daliad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol drosodd yn 2013, gan ddefnyddio’r grant i brynu offer ffensys trydan. Bydd yr offer newydd yn eu galluogi i wella rheolaeth glaswellt ar y fferm drwy weithredu system bori ar gylchdro.  O'i gymharu â'r system flaenorol da byw parhaol a ddefnyddiwyd, dengys bod systemau pori ar gylchdro sydd wedi’u rheoli’n dda yn cynyddu twf glaswellt, ac felly gallu da byw'r fferm, o tua 25% heb unrhyw gynnydd ychwanegol yn y mewnbynnau allanol. Mae defaid a gwartheg yn cael eu cadw ar ddwysedd stocio uchel ar unrhyw adeg, ac yn cael eu symud i badogau newydd yn rheolaidd, yn aml yn ddyddiol. Mae'r offer a brynwyd, gan gynnwys beddrod gwynt awtomataidd ac egniolwyr ffensys sy’n defnyddio ynni’r haul, yn gwneud y broses o symud stoc a ffensys yn gyflym ac yn effeithlon.

Dywedodd Sian ‘bydd y cyfarpar yn ein galluogi i fanteisio i'r eithaf ar botensial y fferm i gynhyrchu da byw o fuddsoddiad cymharol fach. Bydd yn ein galluogi i gynyddu cynhyrchiant a phroffidioldeb mewn ffordd gynaliadwy, heb orfod buddsoddi'n drwm mewn isadeiledd a mewnbynnau drud fel gwrtaith a phorthiant '    

Roedd Conwy Cynhaliol yn rhan o raglen Partneriaeth Wledig Conwy o brosiectau Cynllun Datblygu Gwledig yn y cyfnod 2011-2014.

Er bod y manylion terfynol a'r dyddiad agor eto i'w cyhoeddi, disgwylir i'r 'Cynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy' arfaethedig, i'w weinyddu’n genedlaethol gan Lywodraeth Cymru, gynnig arian ar gyfer buddsoddiadau tebyg a gefnogir gan gynllun Conwy, y deallir iddo fod yn unigryw yng Nghymru ar gyfer y cyfnod blaenorol o gyllid Cynllun Datblygu Gwledig.

Yn ôl cynigion drafft, mae’r cynllun newydd wedi'i gynllunio i helpu ffermwyr foderneiddio eu cyfleusterau ar y fferm gyda'r nod o wella proffidioldeb a chanlyniadau amgylcheddol. Bydd grantiau rhwng £2,000 a £50,000 ar gyfradd uchaf o 40% o gostau cymwys y prosiect ar gael. Mae'n rhaid i brosiectau a gyflwynir gael eu targedu at un neu fwy o bedair thema:

  • Rheoli pridd a chnydau.
  • Dal a thrin cynnyrch.
  • Iechyd a lles anifeiliaid a phlanhigion.
  • Storio cnydau.
  • Machno Utd

    Y llynedd, fe gafodd Clwb Pêl-Droed Machno newyddion drwg – roedd y cae yr oedden nhw wedi ei ddefnyddio ers 85 o flynyddoedd yn mynd i gael ei werthu. Roedd y ffermwr a oedd wedi prydlesu'r tir i'r clwb yn ymddeol ac yn gwerthu ei fferm.

    Credwch Ac Fe Lwyddwch

    Felly aeth y Clwb, sydd â’r arwyddair "Credwch ac fe lwyddwch", ati i geisio codi digon o arian i brynu’r darn o dir. Diolch i haelioni’r ffermwyr, fe gafodd y clwb gyfle i brynu'r cae ac fe gytunodd y ffermwr i werthu’r tir am bris gostyngol. Llwyddodd y Clwb godi £10,000 a chyda cymorth Cynllun Datblygu Gwledig Conwy, Chwaraeon Cymru ac Elusen Cymorth Mewn Angen Penmachno bu iddyn nhw brynu’r cae 5 acer.

    Dywedodd Jon Seymour, Cadeirydd Clwb Pêl-Droed Machno Unedig "Mae Machno Unedig yn rhan enfawr o gymuned a threftadaeth y pentref. Mae arnom ni eisiau gwneud ein pentref yn gymuned ffyniannus a rhoi'r un cyfle i’n plant ag unrhyw blentyn arall yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â'r cae pêl-droed, rydym ni’n archwilio nifer o ddewisiadau eraill ar gyfer codi arian i ddatblygu gweddill y safle ar gyfer y gymuned. Rydym ni’n gobeithio cynnwys pethau y gall y teulu cyfan eu mwynhau gyda'i gilydd fel rhandiroedd, gwenynfa, perllan a dôl blodau gwyllt.”

    Dywedodd Ela Fôn Williams o Gynllun Datblygu Gwledig Conwy "Mae'r cae pêl-droed yn ased cymunedol pwysig iawn ac rydym ni wrth ein bodd o fod wedi helpu i sicrhau ei ddyfodol. Mae Machno Unedig yn hen glwb pêl-droed yng Nghymru ac iddo hanes gyfoethog, ac rydym ni’n falch iawn na fydd yn dod i ben”.

    Mae gan Sir Conwy hanes o fod yn lleoliad ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau chwaraeon, cerddoriaeth a diwylliannol, sy'n chwarae rôl sylweddol wrth roi hwb i economi'r Sir, gan ddod â mwy na £25 miliwn (y flwyddyn).

    Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig wedi bod yn allweddol wrth gefnogi strategaeth ddigwyddiadau’r Sir drwy ganolbwyntio ar ddod â digwyddiadau newydd i'r ardal wledig, a chefnogi digwyddiadau cymunedol i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn.

    Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cynllun Datblygu Gwledig Conwy wedi cefnogi llawer o ddigwyddiadau chwaraeon yn y Sir gan gynnwys rasys fel y Triathlon Dyn Eira, Her Llwybr Betws y Coed, Rali Cambria, Eryri 50 a Marathon Eithaf Llwybr y Byd. Fe wnaeth cystadleuwyr redeg, nofio, beicio a ralio cyfanswm sy’n dros 43,000 cilomedr o’n Sir brydferth - mae hynny'n ddigon i fynd o amgylch y byd!

    Yn ogystal â denu bron i 1,000 o gystadleuwyr, mae'r digwyddiadau yn denu teuluoedd a ffrindiau’r rhai sy’n rasio, timau cefnogi a gwylwyr, a digon o sylw yn y cyfryngau, gyda phob un yn helpu i ddod â hyd yn oed mwy o ymwelwyr i'r ardal. Fe wnaeth Rali GB Cymru gyrraedd hyd at 60 miliwn o bobl yn ddiweddar mewn 150 o diriogaethau o amgylch y byd.

    Mae digwyddiadau a gwyliau diwylliannol fel Gŵyl Eryri, Llanast Llanrwst ac Ymuno yn ddigwyddiadau a arweinir gan y gymuned, yn dathlu artistiaid a cherddorion lleol, ac sy’n dechrau tyfu a denu cynulleidfaoedd ehangach, diolch i rywfaint o gyllid ychwanegol. Mae Nadolig Betws y Coed, digwyddiad cymunedol arall, wedi mynd o fod yn ddathliad Nadolig bach ar gyfer pobl pentref Betws y Coed, i ddigwyddiad blynyddol sy'n denu ymwelwyr o bob rhan o'r DU i ddechrau eu dathliadau Nadolig yma yng nghefn gwlad Conwy.

    Ar ôl y buddsoddiad cychwynnol i helpu i oresgyn y costau cychwynnol, buddsoddi cyfalaf a risg sy'n gysylltiedig â mentrau newydd, mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi mynd ymlaen i fod yn ddigwyddiadau blynyddol, gyda'r budd parhaus i'r ardal o ddenu mwy o ymwelwyr a buddsoddiad i'r ardal, yn ogystal â rhoi cyfle gwerthfawr i bobl ifanc gael profiad gwaith yn y maes.

    Wrth i’r Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) cyfredol dynnu at ei derfyn ar draws Cymru, cynhaliodd y tîm CDG yng Nghonwy ddigwyddiad arddangos gyda’r nos i ddathlu'r hyn a gyflawnwyd yng Nghonwy.

    glasdir


    Daeth Cynghorwyr Gwledig, gwirfoddolwyr o Grŵp Gweithredu Lleol a Phartneriaeth Wledig Conwy, aelodau staff a buddiolwyr ynghyd i fwynhau noson o adloniant a phryd o fwyd bendigedig a baratowyd gan ddefnyddio cynnyrch o Ddyffryn Conwy Naturiol gan y Cogydd ifanc talentog, Stuart Russell.

     

    Cafodd y gwesteion eu diddanu gan rai o fuddiolwyr y Cynllun Datblygu Gwledig, gan gynnwys y fideo newydd o lwybr beicio mynydd Penmachno, perfformiad gan Elliott Parkes, enillydd Snowdon’s Got Talent, a’r delynores Hefina Williams.

    Uchafbwynt y noson i lawer oedd diweddglo emosiynol gan gôr ieuenctid Clwb Rygbi Nant Conwy, a berfformiodd er budd Ymchwil Canser Macmillan. Helpodd y cantorion ifanc godi dros £300.

    Clowyd y noson gydag araith emosiynol gan Arweinydd Cyngor Conwy, y Cynghorydd Dilwyn Roberts, gan ychwanegu:
    “Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn fel Cynghorydd ar gyfer ward Llangernyw, Arweinydd Cyngor Conwy ac Aelod Cabinet dros yr ardal wledig i fod yn dyst i gymaint o brosiectau llwyddiannus sydd wedi dwyn ffrwyth oherwydd y gefnogaeth a'r arian rydym wedi’i sicrhau ar gyfer Conwy wledig a’r Cynllun Busnes yma o fis Mawrth 2011 tan fis Rhagfyr 2014. Diolch i chi i gyd.”

    Ffeithiau Allweddol
    Yn ystod y noson clywodd y gwesteion gan nifer o siaradwyr am gyflawniadau CDG Conwy dros y 3 blynedd a hanner diwethaf:

    • Buddsoddiad o £10 miliwn
    • Cefnogi 400 o fusnesau
    • Datblygiadau twristiaeth
    • Digwyddiadau a ddenwyd i Gonwy:
    • Pencampwriaethau Rhedeg Llwybr y Byd
    • Triathlon y Dyn Eira
    • Ras Llwybr Betws
    • Eryri 50
    • Rali Cambria
    • Arloesi ac arallgyfeirio mewn ffermio a choedwigaeth
    • Tyfwyd a chryfhawyd grwpiau cymunedol
    • Cefnogwyd 600 o bobl gyda hyfforddiant
    • Crëwyd 60 o swyddi
    • Bron i 5,000 o brosiectau unigol
    • a thros 25,000 o bobl mewn pentrefi gwledig sy’n elwa o well gwasanaethau

    Telynau Tandderwen Harps

    Nid bob dydd yr ydych yn gweld 10 o delynau 34 tant newydd sbon ar yr un pryd, ond dyna'n union y gallai Hefina a Huw Williams o Telynau Tandderwen Harps ei wneud yn gynharach eleni, diolch i gymorth Grant Arallgyfeirio Ffermydd drwy Gynllun Datblygu Gwledig Conwy. 

    Gwelodd Hefina, athrawes gerdd yn ysgol baratoi Fairholme yn Llanelwy, fwlch yn y farchnad yng Ngogledd Cymru ar gyfer gwasanaeth rhentu telyn ac aeth ati i geisio sefydlu ei busnes. Ei bwriad gwreiddiol oedd prynu dwy delyn, ond ar ôl ymchwilio i'r farchnad a gyda chefnogaeth gan deulu a ffrindiau ac anogaeth gan y Swyddog Datblygu Gwledig, Neil Pringle, gwnaeth gais llwyddiannus am grant i'w helpu i brynu 10 o delynau.  Mae’r rhain oll wedi mynd at eu teuluoedd newydd bellach - caiff yr un olaf ei rhoi o dan y goeden ar fore Nadolig ar gyfer dau o blant lwcus.

    Dywed Hefina "Rydym mor falch o gynnig gwasanaeth o'r fath i helpu plant gael y cyfle i wireddu eu potensial.  Mae wedi bod fel corwynt - rydym wedi cwrdd â theuluoedd hyfryd ac rydym yn teimlo mor anrhydeddus ein bod yn gallu darparu telyn lifer fforddiadwy iddynt.  Mae gweld y broses drosglwyddo yn amhrisiadwy – mae’r profiad o weld eu hwynebau’n goleuo mor galonogol!”

    Mae Hefina newydd archebu 5 telyn arall a fydd ar gael i'w rhentu yn ystod yr wythnosau nesaf - mewn pryd ar gyfer y Nadolig i deulu lwcus arall o bosibl. Dyma sefyllfa wahanol iawn i’r ddwy delyn y disgwyliodd eu prynu ychydig fisoedd yn ôl. 

    “Rwy'n edrych ymlaen yn arw at ddadlapio’r 5 telyn nesaf, er na fydd unrhyw beth yn curo cael y deg o delynau cyntaf hynny yn cyrraedd i gyd ar unwaith - a gobeithio na fyddwn yn eu gweld i gyd gyda’i gilydd eto.  Roedd yn foment arbennig iawn ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y grant Datblygu Gwledig a chefnogaeth ddiwyro Neil Pringle.”

    Mae Telynau Tandderwen Harps yn cynnig gwasanaeth rhentu telynau cyflawn  gydag yswiriant, cyngor a gwasanaeth ôl-ofal am gyfradd gystadleuol iawn. 

    Daeth cymuned Capel Garmon at ei gilydd i’r neuadd bentref ar ei newydd-wedd yr wythnos ddiwethaf i fwynhau cyngerdd Nadolig difyr gan blant Ysgol Capel Garmon. I ddilyn, goleuwyd goleuadau’r goeden Nadolig a chafwyd noson o gerddoriaeth a lluniaeth gydag aelodau o'r gymuned. Ymunodd cynrychiolwyr o Gyngor y Gymuned, Parc Cenedlaethol Eryri a Phartneriaeth Wledig Conwy â hwy, a ariannodd y gwelliannau ar y cyd â Chronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Conwy ac eraill.  

    Mae'r pwyllgor sy'n gofalu am neuadd y pentref yn wirfoddol wedi llwyddo i godi dros £35,000 i ariannu gwaith adnewyddu'r neuadd, gan gynnwys £7,000 gan Gronfa Allweddol Adnewyddu Pentrefi Partneriaeth Wledig Conwy.  Mae gan y neuadd do newydd yn ogystal â chegin a thoiledau newydd, ac, yn bwysicaf oll, mae soced allanol ar gyfer goleuadau’r goeden Nadolig!

    Y Cynghorydd Graham Rees
    yn agor y Llwybr ac yn dechrau
    digwyddiad Enduro Penmachno.

    Lansiwyd Llwybr Beicio Mynydd Penmachno ar ei newydd wedd ddydd Sadwrn (15/11/14).

    Llwybr Penmachno yw trysor cudd beicio Gogledd Cymru, gyda dros 30 cilomedr o drac sengl a llwybr coedwig, golygfeydd ysblennydd a theimlad antur beicio mynydd go iawn.

    Mae dwy adran newydd bellach wedi cael eu hadeiladu, sy’n ychwanegu 1.5km i'r llwybr presennol. Nod yr adrannau newydd hyn yw mynd â beicwyr oddi ar ffyrdd y goedwig a hefyd i ddarparu disgyniad parhaus.

    Ariannwyd y prosiect twristiaeth gwledig hwn a gostiodd £175k gan y Cynllun Datblygu Gwledig.

    Dywed y Cynghorydd Graham Rees, Aelod Cabinet Cyngor Conwy ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Hamdden:  “Y prif amcanion oedd darparu adnodd hamdden o safon uchel ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr; cynyddu incwm twristiaeth lleol; a chynnwys y gymuned leol wrth ddatblygu a rheoli’r llwybr ar gyfer y dyfodol.”

     Ychwanegodd, "Mae'r llwybr hefyd yn lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau beicio mynydd, ac roeddwn yn falch iawn o groesawu digwyddiad Enduro cyntaf erioed Penmachno ddydd Sadwrn.”

    Cafodd y Prosiect ei reoli gan Dîm Twristiaeth Cyngor Conwy, ar y cyd â Menter Bro Machno a Chyfoeth Naturiol Cymru.

     

    Mae Partneriaeth Wledig Conwy newydd gyhoeddi cynllun grantiau byr-dymor ar gyfer gwelliannau fferm yng Nghonwy wledig o dan y Cynllun Datblygu Wledig.

    Mi fydd daliadau cymwys yn medru gwneud cais am uchafswm o £5000, wedi ei dalu ar gyfradd o 50% cyfanswm cost prosiectau sy’n cwrdd ag un o’r 4 meini prawf canlynol:

    Gostwng costau cynhyrchu
    Gwella effeithlonrwydd ynni
    Gwella lles anifeiliaid
    Gwella diogelwch a sicrwydd ar y fferm

    Y dyddiad hwyraf mae posib gwneud cais cyflawn yw’r 12fed Rhagfyr 2014, yn golygu dim ond 5 wythnos I gwblhau prosiectau. Mae ffurflenni cais ar gael yng Nglasdir, Llanrwst neu wrth ebostio conwycynhaliol@conwy.gov.uk. Dylai cymeradwyaeth ysgrifennedig ei gael cyn dechrau unrhyw waith neu prynu unrhyw eitem.

    Bydd gerddi ysgolion cynradd ac uwchradd yn ardaloedd gwledig gogledd Cymru yn garped o glychau’r gog gwanwyn nesaf wedi i dros 120 o ysgolion ymuno yn yr ymgyrch i achub y gwenyn mel.

    Yng nghwmni y naturiaethwr a’r darlledwr Iolo Williams bu i ddisgyblion o dros 120 o ysgolion siroedd Conwy, Gwynedd, Dinbych a Fflint ymuno i blannu dros 6000 o fylbiau clychau’r gog sy’n ffafriol ar gyfer denu’r gwenyn mel.

    Roedd y digwyddiad plannu Diwrnod i’r Gwenyn yn rhan o’r Prosiect Cydweithredol Gwenyn a ddatblygwyd gan Bartneriaeth Wledig Conwy sydd wedi bod yn weithredol yn ardaloedd gwledig siroedd Conwy, Gwynedd, Dinbych a Fflint ac yn cael ei  weithredu gan Menter a Busnes.

    Bwriad y prosiect yw cynyddu niferoedd y gwenyn mêl a’r niferoedd o wenynwyr sy’n cadw gwenyn, a hefyd codi ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc o bwysigrwydd y gwenyn mel.

    Roedd y naturiaethwr Iolo Williams yn ymweld âg ysgolion Ysgol Bro Ddyfrdwy yng Nghynwyd, Ysgol y Foel, Cilcain, Ysgol Bro Gwydir Llanrwst ac Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn ystod y dydd.

    Dywedodd Myrddin Davies o Menter a Busnes a Rheolwr Prosiect Cydweithredol Gwenyn bod y diwrnod wedi codi ymwybyddiaeth plant o bob oed o bwysicrwydd y gwenyn mel.

    “Da ni’n ffodus iawn i fod ynghlwm â gweithredu’r prosiect yma a fydd yn cael effaith bositif ar wenyn a hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc am bwysicrwydd y gwenyn mêl. 

    Ategodd Elen Edwards, Rheolwr Strategol Cynllun Datblygu Gwledig i’r diwrnod fod yn lwyddiannus iawn ac i’r disgyblion gael budd o ddysgu sgiliau plannu a dysgu am bwysigrwydd y gwenyn mel yng nghwmni Iolo Williams.

    “Mae’r diwrnod yma wedi bod yn esiampl gret o gydweithredu ar bob lefel.  Mae disgyblion o bob oed wedi cymryd rhan yn weithgareddau’r diwrnod heddiw ac wedi mwynhau. Mae wedi bod yn gyfle inni godi ymwybyddiaeth o’r gwenyn mel  mewn ffordd hynod o ddiddorol ac apelgar.”

    Cafodd y gorau o fwyd a diod Conwy wledig ei roi ar ddangos ar gyfer masnach lletygarwch y sir ar y 15fed o Hydref ac unwaith eto roedd y fwydlen foethus wedi dal diddordeb busnesau lleol.

    Am y trydydd tro, fe drefnodd prosiect Conwy Cynhaliol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy noson fel cyfle rhwydweithio ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod gwledig i gwrdd â chwsmeriaid newydd o’r fasnach arlwyo sylweddol yr ardal.

    Dywedodd rheolwr y prosiect, Stuart Whitfield "Mae'n ystrydeb, ond mae'r fformat arddangos yn rysáit ar gyfer llwyddiant. Rydym wedi mireinio ers mis Hydref diwethaf, wedi cymryd yr adborth gan ein gwesteion i ystyriaeth ac yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiad mis Ebrill. Gyda'r adborth cynnar rwy'n wirioneddol falch o'r digwyddiad hydrefol yma. Mae llawer o waith caled wedi cael ei roi i mewn gan fy nhîm. Mae Gethin Owen a Laura Fisher wedi ein helpu i adeiladu perthynas wych gyda llawer o gynhyrchwyr yn yr ardal. Rwy'n gwybod bod y dull hwn yn dwyn ffrwyth."

    Ysbrydoli

    Gwahoddwyd Robin Jones fel y siaradwr gwadd - sef Prif Weithredwr Village Bakery yn Wrecsam – y busnes sydd wedi tyfu cyflymaf yn 2013 yng Nghymru ag hefyd ‘Gwneuthurwr Becws y Flwyddyn” gan Ddyfarniadau Diwydiant Pobi 2014'.  Fe osododd y naws ar gyfer y noson gyda'i ddehongliad ysbrydoledig o dwf busnes cyflym yn seiliedig ar yr ymrwymiad i brynu'n lleol.

    Fe’i benodwyd hefyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i gadeirio'r Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, siaradodd Mr Jones am ansawdd uchel y bwyd ar y noson;

    "Mae'r bwyd heno wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn noson wych ac mae wedi gwir yn dangos y gwerth o ffynhonellu a chyrchu’n lleol".

    Fe ddyfeisiodd Mike Evans, Prif Gogydd yng Ngholeg Llandrillo fwydlen arddull tapas i ddarparu ar gyfer amrywiaeth eang o gynnyrch gan gynnwys afalau organig, cig llo, cig eidion, pwmpen a selsig porc brid prin. Roedd y cwrs olaf o dri phwdin o fecws Siwgr a Sbeis yn Llanrwst (dathlu 25 mlynedd mewn busnes) a the a choffi yn lleol o Caffi Cristobal, Penmachno yn cwblhau'r orymdaith goginiol. Fe roddwyd hefyd samplau o gwrw Bragdy’r Gogarth hefyd, gan gynnig y gwesteion o westai, tafarndai a thai bwyta amrywiaeth eang cyffredinol o gynnyrch i ystyried i gynnig i’w cwsmeriaid.

    Golwg newydd

    Ychwanegodd Gerwyn Rowlands, o westy Rhoséd AA Dunoon, Llandudno, "Hyd nes i chi ddod i ddigwyddiad fel hyn nid ydych yn gwerthfawrogi'n llawn faint o gynnyrch sydd o fewn y Sir ac mae ansawdd mor uchel. Byddwn yn cael golwg newydd ar ein bwydlen yn awr yng ngoleuni'r hyn yr ydym wedi ei weld a'i flasu heno. "

    Ar ôl mynychu ‘r ddau ddigwyddiad blaenorol dywedodd Jonathan Hughes o Fragdy'r Gogarth; "Rwyf unwaith eto wedi gwneud cysylltiadau newydd gwych heno. Ar ôl y digwyddiad arddangos bwyd diwethaf fe gefais bedwar cwsmer newydd sy'n dal i archebu oddi wrthyf yn awr. Mae hwn yn syniad mor wych. "

    Yn cynrychioli ychwanegiad diweddar i'r grŵp Dyffryn Conwy Naturiol, ychwanegodd Shôn Edwards o Barcut Rosé Veal, Llangernyw,: "Hwn yw’r arddangosfa fwyd cyntaf i ni fynychu ac mae wedi bod yn agoriad llygad i ni. Rydym wedi gwneud rhai cysylltiadau gwerth chweil heno a byddwn yn codi'r ffôn bore fory i ddilyn nhw ymhellach. "

    Hefyd ymhlith y gwesteion oedd Darren Poynton o Poyntons Butchers gyda siopau ym Mae Colwyn a Llandudno. Mae'n awyddus i ddefnyddio brand Dyffryn Conwy Naturiol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gig a gynhyrchwyd yn gyfan gwbl o fewn y sir.

    Wrth sôn am y noson dywedodd "Mae'n wych gweld cymaint o fusnesau lleol sy'n cynhyrchu bwyd gwych o dan y brand Dyffryn Conwy naturiol. Rwy'n falch o fod yn rhan. "

    Cysylltu ffermydd Conwy gyda chigyddion arlwyo megis Poyntons a Conwy Valley Meats yn Llanrwst. Mae’r cyfarwyddwr, Stephen Williams, yn awyddus i weld mwy o gig oen a chig eidion wedi eu magu a gorffen yn lleol - a'r gadwyn gyflenwi dynn - yn cyflawni proffil cryfach, ac yn ystyried fod Dyffryn Conwy Naturiol yn gyfle gwych i gyflawni hyn.

    Daeth y syniad gwreiddiol ar gyfer y digwyddiad gan Stuart Whitfield, Rheolwr Prosiect Conwy Cynhaliol Partneriaeth Wledig Conwy. "Rydym wedi bod yn gweithio i ddatblygu'r gadwyn gyflenwi rhwng gwir gynhyrchwyr bwyd a diod 'lleol' a'r busnesau hynny sy'n gwerthu eu cynnyrch i drigolion ac ymwelwyr i Gonwy. Rydym yn hyrwyddo rhai o'r cadwyni cyflenwi byrraf bydd y defnyddiwr yn dod o hyd i yn unrhyw le. Er bod hyn yn dasg fawr nid oedd y buddsoddiad mwyaf yn y digwyddiadau arddangos yma yn y llogi’r lleoliad na marchnata  ond yn hytrach yr amser a dreulir gan y busnesau sy’n mynychu. Rydym yn werthfawrogol iawn o hynny ".

    I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad cysylltwch â thîm Cynhaliol Conwy ar 01492 577837 neu anfonwch e-bost conwycynhaliol@conwy.gov.uk a dilynwch Dyffryn Conwy Naturiol ar Twitter @ConwyNaturiol

    Cyfarfod Fforwm Coed Conwy

    Mae Conwy Cynhaliol yn cynnal cyfarfod fforwm coed ar ddydd Llun 8fed o Fedi am 7.00yh yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.

    Mae croeso i gontractwyr lleol, proseswyr coed, perchnogion coedwigoedd a defnyddwyr coed fynychu’r cyfarfod.

    Mae chwe mis wedi mynd heibio ers y cyfarfod diwethaf ac mae gennym nifer o eitemau i’w cyflwyno:

    Rhaglen

    • Gwerthiant offer
    • Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghonwy 2015 -2020
    • Gwefan Coed Conwy
    • Crynodeb o fentrau yn 2014 ac awgrymiadau ar gyfer gweddill y flwyddyn


    Os hoffech chi fynychu, neu os ydych chi'n adnabod rhywun sydd â diddordeb, cysylltwch â Laura Fisher ar 01492 577837 neu Conwycynhaliol@conwy.gov.uk.

     

    Plant Gwynedd, Môn a Conwy yn Mentro - ‘Marchnad Mentro’ - Cliciwch Yma

    Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) yng Nghonwy wedi cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio'r Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) 2014 - 2020 a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd gydag amcangyfrif o £1.75 miliwn o gyllideb ar gyfer gweithgaredd teip LEADER yng Nghonwy wledig. Mae'r GGLl yn awr yn paratoi cynlluniau ar sut i fuddsoddi arian hwn ac rydym am glywed oddi wrthych am yr hyn yr ydych yn credu y dylai'r blaenoriaethau fod.

    Mae busnes, cymunedau, treftadaeth ddiwylliannol a naturiol, ffermio, bwyd, coed a thwristiaeth yn rhai o'r meysydd gweithgarwch a fydd yn cael eu hystyried wrth i ni weithio ar gynllun ledled y Sir i fynd i'r afael â thlodi gwledig ac adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer bywyd yng nghefn gwlad yr ardal. Gallwch ddweud eich dweud drwy gwblhau ein harolwg 10 cwestiwn byr, dienw am yr hyn yr ydych yn credu y dylai'r blaenoriaethau yn yr ardal fod ar gyfer 2014- 2020 a / neu drwy anfon e-bost atom yn ConwyLocalActionGroup@conwy.gov.uk

    Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu gwledig ac yn byw neu'n gweithio yng Nghonwy wledig, efallai y bydd cyfle i ymuno â'r Grŵp Gweithredu Lleol ac yn helpu i lywio'r Rhaglen Datblygu Gwledig nesaf. Mae arnom angen pobl o bob cefndir a phob sector - preifat a chyhoeddus, cymunedol a gwirfoddol. Gallwch roi o gyn lleied ag ychydig oriau o'ch amser yn yr ymgynghoriad cychwynnol ar gyfer y Strategaeth Datblygu Lleol i ddod i gyfarfodydd rheolaidd. I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch ag Elen Edwards ar 01492 576673 neu anfonwch e-bost ConwyLocalActionGroup@conwy.gov.uk

    councillor parry

    Bu aelodau Gwledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac aelodau'r Grŵp Gweithredu Lleol yn mwynhau arddangosiadau o felin lifio symudol a threulydd anaerobig yn ystod ymweliad â dau brosiect Cynllun Datblygu Gwledig ddydd Iau diwethaf. 

    Bu’r Cynghorwyr Goronwy Edwards, Delyth MacRae, Edgar Parry, Ian Jenkins ac Ifor Lloyd yn ymweld â Tai'n y Foel yng Ngherrigydrudion sydd wedi cael cefnogaeth i ddatblygu system dreulio anaerobig arloesol a fydd nid yn unig yn darparu cyflenwad tymor hir o wres i'r ffermdy, ond hefyd yn lleihau costau gwrtaith parhaus yn sylweddol trwy brosesu slyri yn fiolegol o'r fuches gig eidion.

    Aethant ymlaen i ymweld â phrosiect Arallgyfeirio Fferm yn Y Glyn, Melin y Coed.  Mae tair fferm wedi ffurfio cwmni cydweithredol sydd wedi cael cymorth i dreialu'r gwaith o brosesu eu coed eu hunain i greu ffrwd refeniw amgen cynaliadwy. Dangoswyd offer coedwigaeth a melin lifio symudol gan y grŵp.

    Meddai’r Cynghorydd Goronwy Edwards:
    “Roedd yr ymweliad yn addysgiadol iawn.  Crëir argraff arnaf bob amser gan ba mor arloesol a dyfeisgar y mae pobl yn yr ardal wledig.  Roedd yn werth chweil gallu gweld y prosiectau hyn ar waith."

    Gall codi symiau sylweddol o arian ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr fod yn her i lawer o grwpiau cymunedol. Fodd bynnag, bydd dau gyflwyniad fis nesaf yn dangos yr hyn sy'n bosib gyda'r agwedd gywir.

    Mae Conwy Cynhaliol, prosiect Cynllun Datblygu Gwledig a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal dau gyflwyniad byr sy’n gysylltiedig â chyllid gan Nick Venti o Robert Owen Community Banking a Mike Williams o Ganolfan Gorfforaethol Cymru. Bydd yn canolbwyntio’n fwy ar fathau cynaliadwy a hygyrch o gyllid yn hytrach nag ar ddulliau ariannu grant traddodiadol.

    Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect ynni hydro cymuned leol, ‘Ynni’r Dyffryn' gan aelodau o'r grŵp hefyd.

    Cynhelir ‘Codi Arian Cymunedol yn Y Ganolfan, Dolwyddelan ar 17eg Gorffennaf am 7pm.

    Dywedodd Ela Fôn Williams, trefnydd y digwyddiad, “Mae hwn yn gyfle i grwpiau edrych ar wahanol ffyrdd o godi symiau sylweddol o arian ar gyfer prosiectau yn eu cymunedau a symud oddi wrth fod yn ddibynnol ar grantiau traddodiadol i gwblhau pethau. Bydd y digwyddiad hwn yn helpu i feithrin gallu cymunedol o fewn grwpiau drwy gefnogi a chryfhau sgiliau a galluoedd i gymryd camau gweithredu a rolau arweiniol effeithiol yn y gwaith o ddatblygu eu cymunedau"

    Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r cyfarfod neu os gwyddoch am unrhyw un a all fod â diddordeb, cysylltwch ag Ela ar 01492 577 839 neu anfonwch e-bost at ela.williams@conwy.gov.uk

    Mae gennym gyfle gwych i unrhyw un sy'n byw yng nghefn gwlad Conwy neu sydd â diddordeb yn yr ardal i gyfrannu at lunio'r Cynllun Datblygu Gwledig nesaf.  Dyma eich cyfle i gymryd rhan yn y broses ymgynghori a dylanwadu ar y strategaeth ar gyfer yr ardal hon am y 6 blynedd nesaf.  Os oes gennych syniadau ac awgrymiadau ac agwedd gadarnhaol, hoffem glywed gennych.

    Mae angen pobl o bob cefndir a phob sector - preifat a chyhoeddus, cymunedol a gwirfoddol.  Gallwch roi cyn lleied ag ychydig oriau o'ch amser yn yr ymgynghoriad cychwynnol ar gyfer y Strategaeth Datblygu Lleol i ddod i gyfarfodydd rheolaidd.  Am y tro, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru eich diddordeb yn yr ardal.

    Mae busnes, cymuned, treftadaeth naturiol a diwylliannol, ffermio, bwyd, coed a thwristiaeth yn rhai o'r meysydd gweithgarwch a fydd yn cael eu hystyried wrth i ni weithio ar gynllun y Sir gyfan i fynd i'r afael â thlodi gwledig ac adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer bywyd yn yr ardal wledig.   

    I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch ag Elen Edwards ar 01492 576673 neu anfonwch e-bost at partneriaethwledigconwy@conwy.gov.uk.

    Mae’r gwaith o godi Pafiliwn Cymunedol newydd Menter Nefydd yn Llannefydd wedi’i ddechrau’n ddiweddar, sef ffrwyth blynyddoedd o waith caled gan yr elusen.

    Gyda chyllid gan Conwy Cynhaliol sy’n brosiect Cynllun Datblygu Gwledig a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, WREN, Chwaraeon Cymru, Cartrefi Conwy ac arian a godwyd yn lleol hefyd, mae’r prosiect cyfan yn cynrychioli cyflawniad o bwys ac yn ased cymunedol tymor hir yn y pentref a'r ardal ehangach.

    Penodwyd R.L. Davies & Son Ltd o Lysfaen ym mis Ebrill i adeiladu'r cyfleuster pren gyda’r bwriad i’w gwblhau erbyn mis Medi 2014. Defnyddir paneli cyfansawdd ar gyfer yr adeilad gyda’r strwythur yn cael ei gynhyrchu’n bennaf mewn gweithdy ac yna’n cael ei roi at ei gilydd ar y safle.
    Dywedodd Beryl Morris, trysorydd pwyllgor Menter Nefydd, "Rydym yn falch iawn bod y gwaith wedi dechrau o'r diwedd ar y pafiliwn ac yn methu aros iddo gael ei gwblhau".
    “Bydd yn gaffaeliad mawr i'r ardal ac yn gyfleuster sydd mawr ei angen i gryfhau'r gymuned".
    Dywedodd Stuart Whitfield, rheolwr prosiect Conwy Cynhaliol, "Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig yn ymwneud â chynyddu cynaliadwyedd cymunedau gwledig ac mae'r prosiect hwn yn amlwg yn mynd i
    gefnogi Llannefydd ymhell i'r dyfodol".

    “Gan roi’r ariannu o'r neilltu, ni fyddai modd gwireddu’r prosiect heb waith caled ac ymrwymiad pwyllgor Menter Nefydd. Tydi cyrraedd y cam hwn heb fod yn hawdd o bell ffordd."

    I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â thîm Cynhaliol Conwy ar

    01492 577837 neu anfonwch e-bost at conwycynhaliol@conwy.gov.uk

    Rydym wedi ymuno ag Wythnos Gerdded Conwy i helpu i godi ymwybyddiaeth ardal hardd Hiraethog. Rhowch gynnig ar Her Hiraethog, gan gerdded o bentref i bentref dros 5 diwrnod. Neu gallwch roi cynnig ar gerdded gyda’r nos neu byw yn y gwyllt a digwyddiadau chwilota i’r teulu i gyd. Gallwch hyd yn oed ymuno â ni am daith gerdded gynnar yn y bore a brecwast mewn tafarn leol! Mae archebu yn hanfodol ar gyfer pob taith gerdded yn ystod Wythnos Gerdded Conwy – ewch i
    www.conwy.gov.uk/wythnosgerdded neu www.hiraethog.org.uk

    Mae gynnon ni ddwy swydd o fewn Cynllun Datblygu Conwy ar hyn o bryd.

    Dilynwch y linc am fanylion y ddwy swydd:

    Swyddog Adnoddau Adnewyddadwy (Cyf: REQ338) - cliciwch yma

    Swyddog Datblygu’r Prosiect Cynllun Datblygu Gwledig (Cyf: REQ381) - cliciwch yma

     

    awards

    Roedd busnesau Conwy yn dathlu nos Wener yn ystod gwobrau busnes cyntaf Conwy - "Byddwch yn Enillydd".

    Cynhaliodd Cyngor Conwy y noson yng Nghanolfan Gynadledda Eirias a chyn cyflwyno’r gwobrau cafodd y 250 o bobl a oedd yn bresennol bryd o fwyd blasu yn defnyddio cynnyrch Dyffryn Conwy Naturiol a’u diddanu gan Craig Ryder.

    Dywedodd Anna Openshaw o Gymorth Busnes Conwy Wledig, un o drefnwyr y digwyddiad:

    “Yn dilyn llwyddiant ein Gwobrau Busnes Gwledig dros y blynyddoedd diwethaf, roedden ni’n teimlo ei bod hi’n amser i ni gydnabod holl fusnesau bach Conwy. Fel sir ac fel cymuned, rydym ni’n dibynnu ar yr entrepreneuriaid yma i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau. Rydym ni’n ffodus iawn i gael cymaint o bobl dalentog a gweithgar yn y sir.”

    Ychwanegodd John Merrick, Rheolwr Menter Busnes Conwy: "Cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel o feirniaid a oedd yn cynnwys noddwyr y digwyddiad a chynrychiolwyr o fusnesau a mentrau. Cafodd dros gant o fusnesau eu henwebu ac felly roedd hi’n anodd iawn llunio’r rhestr fer”.

    A'r enillwyr oedd:

    Busnes Bach y Flwyddyn - Be My Bear

    Busnes Newydd y Flwyddyn - Holmes & Murphy Veterinary Practice

    Hyfforddai y Flwyddyn - Joshua Cook

    Busnes Gwyrdd y Flwyddyn - Penrallt Consulting

    Prentis y Flwyddyn - Tara Bowerman, Tree Top Adventure

    Menter Gymdeithasol y Flwyddyn - Glasdir

    Person Busnes y Flwyddyn - Rhian Hastings, Celebration Chair Cover Company

    Gwobr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol - SPAR

    Busnes y Flwyddyn - Siwgr a Sbeis

     

    bwyd

    Cynhaliwyd ail arddangosfa fwyd Conwy wledig ar 10 Ebrill gyda phrosiect Conwy Cynhaliol Partneriaeth Wledig Conwy unwaith eto yn ymuno â staff a myfyrwyr yn Adran Arlwyo a Lletygarwch Coleg Llandrillo i ddangos y bwyd a’r diod a gynhyrchir yng nghefn gwlad Conwy i westai a bwytai lleol.

    Roedd pum deg pedwar o westeion yn cynrychioli saith ar hugain o fusnesau lletygarwch wedi mwynhau pryd o fwyd tri chwrs sy'n cynnwys bwyd a gynhyrchir yn lleol, ochr yn ochr â'r cynhyrchwyr eu hunain. Gan ddechrau gyda terîn Ham Hock gyda chig wedi’i gyflenwi gan Pigging Good Pork yn Neuadd Teyrdan a rholiau wedi eu pobi’n ffres gan Scilicorns o Lanrwst, prif gwrs yn cynnwys cig oen organig wedi'i goginio’n fendigedig o Fryn Dowsi, Henryd gyda moron bach, butternut squash a bresych y gwanwyn trwy garedigrwydd Belmont, Llanddoged.

    Cafwyd pwdin blasus panacota fanila, sinsir a riwbob, hefyd o Fryn Dowsi, i orffen cyn cynnig samplau o goffi a the a baratowyd gan Gaffi Cristobal Penmachno. Mae pob un o'r cynhyrchwyr yn y digwyddiad yn ddefnyddwyr brand 'Dyffryn Conwy Naturiol' Conwy Cynhaliol sy'n hyrwyddo hunaniaeth leol bwyd a diod o ardaloedd gwledig Conwy.

    Cafodd Aled Williams, Prif Gogydd bwyty Cennin, Biwmares ei recriwtio ar gyfer y noson i gyflwyno pob cynhyrchydd ac esbonio ychydig amdanynt wrth y gwesteion. Gofynnwyd i’r gwesteion wneud yn fawr o'r cyfle rhwydweithio gwerthfawr a pharhaodd trafodaethau am gynhyrchwyr gwledig sy'n cyflenwi siopau mawr a bach ar draws y sir yn ystod y noson. Roedd arddangosfa fechan o'r cynhyrchwyr yn ffocws ar gyfer y noson, gan gynnwys Cigoedd Dyffryn Conwy, Llaeth y Llan o Lannefydd a Bragdy'r Gogarth, Glan Conwy.

    Rydym yn falch iawn o gefnogi Gŵyl Eryri - gŵyl gerddoriaeth newydd sbon sy’n digwydd yma yn Llanrwst ar 14 a 15 Mehefin. Leanne Mitchell, enillydd ‘The Voice’ 2012 yw prif berfformiwr yr ŵyl yn ogystal â pherfformiadau gan berfforwyr "We Will Rock You" o’r West End a bandiau lleol Sen Segur, Forever Kings, Kizzy Crawford, Gavner P, Cover Up a Candelas. Byddwch hefyd yn cael eich diddanu gan newydd ddyfodiaid talentog lleol wrth i’r unigolion yn rownd derfynol o sioe ‘Snowdonia’s Got Talent’ berfformio yn ystod y penwythnos hefyd.

    Gallwch ymuno yn yr hwyl a chymryd rhan yn nawns fwyaf Cymru ar y nos Sadwrn-dysgwch y symudiadau drwy wylio'r fideo ar www.snowdonfest.com

    Tocynnau yn £10 am ddiwrnod, £15 am ddeuddydd ac ar gael nawr ar y wefan neu o safle Eventbrite.co.uk

    bwyd

    Mae perchnogion gwestai a bwytai o bob rhan o'r sir wedi eu gwahodd i flasu bwydlen flasus ar thema’r gwanwyn a grëwyd gan brif gogydd Coleg Llandrillo, Michael Evans. Bydd y prydau i gyd yn cael eu creu gan ddefnyddio cynnyrch gan gynhyrchwyr "Dyffryn Conwy Naturiol".

    Dywedodd Michael Evans, “Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i dynnu sylw at y cynnyrch sydd gennym yng Ngogledd Cymru, gan ganiatáu i’r perchnogion gwestai a bwytai lleol i gwrdd â’r cyflenwyr a blasu eu cynnyrch.”


    “Dim ond drwy ddigwyddiadau fel hyn y gallwn ddangos amrywiaeth y cynhyrchion sydd gennym ar garreg ein drws a dangos manteision defnyddio cynhwysion lleol i gwsmeriaid busnes”.

    Daeth y syniad ar gyfer y digwyddiad gan Stuart Whitfield, Rheolwr prosiect Conwy Cynhaliol Partneriaeth Wledig Conwy. "Ein nod yw datblygu a chryfhau'r gadwyn gyflenwi rhwng cynhyrchwyr bwyd a diod wirioneddol leol a’r busnesau hynny sy'n gweini ac yn gwerthu bwyd a diod i drigolion ac ymwelwyr i Gonwy fel ei gilydd. Does dim yn well na sgwrs wyneb yn wyneb."

    Heb law am brofi ansawdd y bwyd o ffynonellau lleol, mae’r noson yn gyfle i gynhyrchwyr a busnesau rwydweithio a thrafod cyfleoedd busnes. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad cysylltwch â thîm Conwy Cynhaliol ar 01492 577837 neu anfonwch e-bost i conwycynhaliol@conwy.gov.uk.

    bwyd

    Llanrwst

    Ar brynhawn 18 ac 19 Mawrth, bydd Partneriaeth Wledig Conwy yn cynnal bwtcamp ar gyfer busnesau twristiaeth i ddechrau tymor gwyliau 2014.

    Mae’r gweithdai yn cynnwys amryw o themâu – o ysgrifennu copi a chysylltiadau cyhoeddus i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i fusnesau twristiaeth yn ardaloedd gwledig Conwy.

    Dywedodd Swyddog Marchnata Partneriaeth Wledig Conwy, Hazel Barclay "Dyma gyfle gwych i bobl gamu’n ôl ac edrych ar eu gweithgareddau marchnata o safbwynt gwahanol yn ogystal â dysgu ambell i dechneg newydd. Rydym ni’n ceisio helpu busnesau i sefyll allan mewn marchnad orlawn a helpu Conwy i wneud yr un peth.”

    Os hoffech chi fynychu’r digwyddiad, ond nad ydych chi wedi derbyn gwahoddiad, cysylltwch â Glasdir ar 01492 640640 neu ewch i www.bootcamp4biz.co.uk.

     

    Beth yw eich breuddwyd chi...?

    Bod yn ffotograffydd?
    Ysgrifennu llyfr?
    Dechrau eich busnes eich hun?
    Bod yn therapydd harddwch?
    Bod yn arweinydd cerdded mynydd?
    Gwneud hetiau?
    Gyrru HGV?
    Dysgu cynllunio gwefan?

    Gallech fod un cam yn nes at wireddu eich breuddwyd ar ôl dod i Noson Agored Hyfforddiant Partneriaeth Wledig Conwy. Gallwn gynnig hyd at 75% o gostau unrhyw hyfforddiant yr ydych ei eisiau*.

    Dewch draw i ddarganfod mwy:

    Dolwyddelan
    Dydd Llun 10 Mawrth
    3-7pm
    Pafiliwn Cymunedol

    Pentrefoelas
    Dydd Iau 13 Mawrth
    4 – 7pm
    Neuadd Bentref

    Betws-yn-Rhos
    Dydd Mercher 26 Mawrth
    3-7pm
    Neuadd Bentref

    Rowen
    Dydd Iau 27 Mawrth
    3-7pm
    Neuadd Goffa

    Os na allwch ddod i Noson Agored, ffoniwch ni i siarad am ein Cronfa Hyfforddiant sydd wedi’i deilwra:
    01492 577840
    hyfforddiantgwledig@conwy.gov.uk

    www.conwywledig.org.uk

    * yn amodol ar argaeledd. Mae’n rhaid i chi fod yn byw neu’n gweithio yng Nghonwy wledig ac ni ddylech fod yn gymwys am gefnogaeth gan unrhyw gyrff grant eraill.

    field

    Mae teulu ffermio yn Llwyn y Coed Isaf yn Nolgarrog wedi dechrau torri cyrs yn fasnachol am y tro cyntaf. Gyda grant gan Gronfa Allweddol Partneriaeth Wledig Conwy, mae cynaeafwr reis a addaswyd yn arbennig ar gyfer torri cyrs wedi cael ei fewnforio o Asia. Dechreuodd Emma Roberts feddwl am y cyrs ar ôl ei weld yn Sioe Frenhinol Cymru. Mae 32 o'r 60 erw yn Llwyn y Coed yn dir cors gwastad sy’n ffinio ar yr afon Conwy gyda digonedd o gyrs yn tyfu yn naturiol. Penderfynodd Emma, ei gŵr Aled a'i frawd Tecwyn i arallgyfeirio o'u gweithgareddau ffermio traddodiadol i wneud defnydd masnachol o’r cyrs am y tro cyntaf a gwnaethant gysylltu â Phartneriaeth Wledig Conwy am gymorth.

    Dywedodd Elen Edwards, Rheolwr Strategaeth y Cynllun Datblygu Gwledig:

    “Dyma un o'n prosiectau blaenllaw ac rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi'r fenter hon. Mae'n gynnyrch gwirioneddol gynaliadwy ym mhob ffordd ac mae'n wych gweld teulu lleol yn elwa o syniad mor arloesol.”

    Ychwanegodd Neil Pringle CGGC sy'n rheoli'r Gronfa Allweddol Arallgyfeirio Ffermydd ar ran Partneriaeth Wledig Conwy:

    “Mae galw sefydledig am gyrs Cymreig a dim ond un tyfwr arall sydd yng Nghymru - ymddiriedolaeth bywyd gwyllt yn Sir Benfro. Mae 80% o’r cyrs a ddefnyddir ar gyfer toi ym Mhrydain yn awr yn cael eu mewnforio o Ddwyrain Ewrop ac nid ydynt o ansawdd mor uchel. Mae cyrs a dyfwyd yn lleol yn fwy hyfyw yn economaidd, ac yn para yn hirach, yn ogystal â chefnogi cynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr iawn.”

    2 berson Mae'r fenter yn defnyddio 32 erw o dir sy’n anaddas ar gyfer pori. Bydd yn darparu incwm ychwanegol i'r busnes fferm a hefyd yn creu cyflogaeth dymhorol i un unigolyn lleol. Bydd y prosiect yn gwella ansawdd y gwely cyrs ar gyfer nythu a man bridio a chynefin ar gyfer amrywiaeth eang o adar / bywyd gwyllt. Mae'r teulu yn gweithio gyda'r RSPB a Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli'r safle mewn modd cynaliadwy.


    Mae Partneriaeth Wledig Conwy yn falch o chefnogi’r prosiect hwn - Boombox Eryri - ffilm a gynhyrchwyd gan Migrations, wedi’i ysbrydoli gan Boombox y perfformiwr a chyfarwyddwr celf o Efrog Newydd, Ely Kim ac wedi’i ail-greu gan bobl Gogledd Cymru. Mewn cydweithrediad gyda’r artist Awstriaidd David Subal, ffilmiodd Migrations 100 o bobl yn dawnsio i’w hoff gerddoriaeth yn eu hoff le yng nghefn gwlad Conwy. Mae’r ffilm fer ganlynol yn ddathliad o ddawnsio, Conwy wledig a’i chymunedau.

     

    rhaglen ffermio

     

    Cliciwch yma i wylio rhaglen Ffermio ble mae Alun Elidyr yn cyfarfod ffarmwr yn Llanrwst sydd wedi arallgyfeirio.

     

     

     

     

    Conwy’s Food

    Croesawyd ymwelwyr i Glasdir yn Llanrwst ddydd Gwener diwethaf ar gyfer y Farchnad Cynnyrch Lleol cyntaf lle'r oedd amrywiaeth o fwyd a gynhyrchir ar fferm ac yn lleol a chrefftau wedi'u gwneud â llaw ar werth.

    Derbyniodd yr ugain siopwr cyntaf i gyrraedd fag o ddeunyddiau hyrwyddo i hybu’r brand bwyd lleol newydd "Dyffryn Conwy Naturiol" a'r cynhyrchwyr angerddol lleol sy’n ei ddefnyddio.

    Roedd llysiau ffres o fferm Cae Melwr yn Llanrwst, cacen Nadolig a bisgedi a wnaed gan bopty Scilicorns, Llanrwst, gan ddefnyddio gwenith a dyfwyd gan Fferm Cae Melwr, hefyd o Lanrwst yn ogystal â chwrw potel o Fragdy Nant Conwy o Landdoged ymhlith rhai o'r cynnyrch a gyflwynwyd yn garedig i'w hennill mewn cystadleuaeth gwobr hamper hyrwyddol.

    Dywedodd rheolwr prosiect Conwy Cynhaliol, Stuart Whitfield, “Mae brand Dyffryn Conwy Naturiol yn ffordd o dynnu sylw prynwyr lleol ac ymwelwyr â’r ardal at yr amrywiaeth eang o gynnyrch a gynhyrchir yng Nghonwy wledig, sy’n awyddus i flasu beth sydd gan Gonwy wledig i’w gynnig. Weithiau nid oes modd gwybod am hunaniaeth leol bwyd a diod wrth i brynwyr weld amrywiaeth o gynnyrch tebyg yn y siopau. Drwy ddefnyddio cefnogaeth Cynllun Datblygu Gwledig Cymru, gyda’r brand hwn rydym yn ceisio rhoi mantais i gynnyrch lleol, mewn beth allai fod yn gystadleuaeth ffyrnig o dynnu sylw siopwyr.”

    Ceri Williams o Lanrwst oedd enillydd lwcus yr hamper, "Rwy'n gobeithio y bydd y Farchnad Cynnyrch Lleol yn llwyddiant mawr ac yn edrych ymlaen at y farchnad nesaf ym mis Ionawr."

    Bydd y Farchnad Cynnyrch Lleol yn cael ei chynnal bob ail ddydd Gwener o’r mis yn Glasdir, Llanrwst o 9.30am tan 1.30pm. Cynhelir marchnad mis Ionawr ar 10 Ionawr 2014.

    Conwy’s Food

    Mae Dyffryn Conwy Naturiol a’r Farchnad Cynnyrch Lleol yn fentrau a gefnogir gan Brosiect Conwy Cynhaliol, a gyllidir yn rhannol trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth am y brand, neu i gael canllaw bwyd lleol, cysylltwch ag aelod o dîm Conwy Cynhaliol ar 01492 577837 neu anfonwch e-bost at conwycynhaliol@conwy.gov.uk.

    Food Showcase

    Caws gafr wedi’i orchuddio mewn briwsion sinsir gyda chacen fetys a siytni. Lwyn porc wedi'i serio gyda phorc bol wedi’i goginio’n araf, tatws wedi’u brwysio, sgwash ac afalau. Ffiled orau o dartar Cig Eidion Duon Cymreig – dim ond rhai o’r prydau a baratowyd gennym yng Ngholeg Llandrillo'r mis diwethaf.

    Byddech yn cael maddeuant am feddwl eich bod yn darllen bwydlen Masterchef, ond dyma rai o’r prydau a gafodd eu gweini fel rhan o ginio wyth cwrs i arddangos bwyd a gynhyrchwyd yng nghefn gwlad Conwy, a baratowyd gan y pen cogydd Michael Evans a’i gynnal gan brosiect Conwy Cynhaliol Partneriaeth Wledig Conwy.

    Gwahoddwyd perchnogion gwestai a bwytai o bob rhan o’r sir i’r noson lle’r oedd cyfle iddynt drafod cyfleoedd busnes posibl gyda chynhyrchwyr sydd weithiau wedi’u lleoli dim ond ychydig funudau i ffwrdd o’r prif gyrchfannau.

    Dywedodd Michael, “Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i dynnu sylw at y cynnyrch sydd gennym yng Ngogledd Cymru, gan ganiatáu perchnogion gwestai lleol i gwrdd â chyflenwyr a blasu eu cynnyrch.”

    “Dim ond drwy ddigwyddiadau fel hyn y gallwn ddangos amrywiaeth y cynhyrchion sydd gennym ar garreg ein drws a dangos manteision defnyddio cynhyrchion lleol i gynhyrchwyr a chwsmeriaid busnes. Rhoddodd gyfle hefyd i fyfyrwyr Llandrillo wybod yn union beth sydd ar garreg ein drws. "

    Dangosodd arolwg a gynhaliwyd ddechrau’r flwyddyn fod diffyg gwybodaeth ar gael i fusnesau am gynnyrch o gefn gwlad Conwy, gyda’r arolwg yn nodi fod cynhwysion yn aml yn tarddu o siroedd cyfagos ac ymhell y tu hwnt, er bod cyflenwyr addas yn yr ardal .

    Dywedodd Emyr Evans o Gae Melwr, Llanrwst, a gyflenwodd lysiau tymhorol ar gyfer y digwyddiad, “Roedd y trefniadau, y gwasanaeth ac ansawdd y bwyd yn ardderchog. I mi, fel cynhyrchydd llysiau tymhorol roeddwn yn falch fod llysiau a gloddiwyd o’r ddaear oriau’n gynharach yn cael eu defnyddio fel rhan o fwydlen greadigol ac anhygoel.”

    Heb law am brofi ansawdd y bwyd o ffynonellau lleol, roedd y noson yn gyfle i gynhyrchwyr a busnesau rwydweithio a thrafod cyfleoedd busnes. Mae ail ddigwyddiad yn cael ei drefnu ar gyfer gwanwyn 2014 a dylid cyflwyno ymholiadau gan gynhyrchwyr a busnesau sy’n gweini bwyd i dîm Cynhaliol Conwy ar 01492 577837 neu anfonwch e-bost i conwycynhaliol@conwy.gov.uk”.

    Bwyta Allan

    Y mis diwethaf, croesawyd brand bwyd lleol newydd ‘Dyffryn Conwy Naturiol’ gan ymwelwyr Gwledd Conwy, lle wnaeth miloedd o bobl a oedd yn hoff o fwyd a diod fanteisio ar y cyfle i flasu cynnyrch o bob cwr.

    Treuliodd aelodau o dîm Conwy Cynhaliol Partneriaeth Wledig Conwy benwythnos yn yr ŵyl fwyd yn hyrwyddo’r brand newydd, a’r cynhyrchwyr lleol brwdfrydig sy’n ei ddefnyddio.

    Roedd llysiau ffres o fferm Belmont yn Llanddoged, cacen sglein lemon a bara brith o Du Hwnt i’r Bont yn Llanrwst, yn ogystal â chwrw mewn poteli o Fragdy’r Gogarth Glan Conwy ymhlith rhai o’r cynhyrchion a gyfrannwyd yn garedig ar gyfer raffl hamper hyrwyddol.

    Dywedodd rheolwr prosiect Conwy Cynhaliol, Stuart Whitfield/l “Mae brand Dyffryn Conwy Naturiol yn ffordd o dynnu sylw prynwyr lleol ac ymwelwyr â’r ardal, at yr amrywiaeth eang o gynhyrchion a gynhyrchir yng Nghonwy wledig, sy’n awyddus i flasu beth sydd gan Gonwy wledig i’w gynnig. Weithiau nid oes modd gwybod am hunaniaeth leol bwyd a diod wrth i brynwyr weld amrywiaeth o gynhyrchion tebyg yn y siopau. Drwy ddefnyddio cefnogaeth Cynllun Datblygu Gwledig Cymru, gyda’r brand hwn rydym yn ceisio rhoi mantais i gynhyrchion lleol, mewn beth allai fod yn gystadleuaeth ffyrnig o dynnu sylw siopwyr.”

    Gan ddangos atyniad eang Gwledd Conwy, ar y dydd Sadwrn, roedd yr enillydd lwcus cyntaf o’r hamper, Kevin Fearnehough, yn dod o Lerpwl, gydag Will Williams a ddaeth o gyffiniau Tregarth yn ennill yr ail hamper ar ddiwrnod olaf y wledd. Fe wnaeth y tîm hefyd gwrdd ag ymwelwyr a oedd wedi dod o Swydd Stafford, Manceinion ac Aberystwyth hyd yn oed.

    Dosbarthwyd Canllaw Bwyd Lleol yn y wledd, yn cynnwys y cynhyrchwyr sy’n defnyddio’r brand ar hyn o bryd, gyda mwy na phedwar cant o ganllawiau’n cael eu dosbarthu dros y deuddydd. Ychwanegol Stuart “Roedd y canllaw bwyd yn boblogaidd iawn. Mae cael manylion cynhyrchwyr gwledig mewn un lle yn ei gwneud yn haws i bobl sy’n hoffi bwyd i ddod o hyd i ffynhonnell leol. Bydd y rhifyn Hydref cyntaf hwn yn cael ei ddiweddaru, gyda mwy o gynhyrchwyr yn ymuno â'r brand."

    Mae Dyffryn Conwy Naturiol yn fenter a gefnogir gan Brosiect Conwy Cynhaliol, a gyllidir yn rhannol trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth am y brand, neu i gael canllaw bwyd lleol, cysylltwch ag aelod o dîm Conwy Cynhaliol ar 01492 577837 neu anfonwch e-bost at conwycynhaliol@conwy.gov.uk.

    Bwyta Allan

    Os ddewch chi i Wledd Conwy fis Hydref, we welwch chi ffigwr anarferol rhwng waliau’r castell – tegan wynt melyn a phinc goleuol. Na – nid castell neidio, ond os wnewch chi adael i’ch plant eich llusgo yno, fe gewch chi samplo rhai o bleserau blasus Conwy wledig.

    Mae Bwyta Allan, gyda chefnogaeth Partneriaeth Wledig Conwy fel rhan o’r Cynllun Datblygu Gwledig, wedi cyhoeddi llyfryn tywys ar gyfer Bwyta Allan yng Nghonwy wledig a dyma gyfle ichi gyfarfod â rhai perchnogion rhai o’r bwytai, tafarndai a chaffis a enwir yn y llyfryn, blasu rhai o’u prydau a chael copi am ddim o’r llyfryn tywys

    Cewch gyfarfod â pherchnogion Caffi Pinnacle o Gapel Curig, ymysg eraill - bwyty a siop adnabyddus i gerddwyr yn Eryri am eu teisennau cartref a’u Brecwast Pinnacle enwog - rhaid ichi fynd yno os ydych chi’n mentro allan i’r mynyddoedd am y diwrnod. Fe fydden nhw yn Bwyta Allan yn gwerthu rhai o’u danteithion blasus - fflapjacs, brownis, bara brith a chacennau cri.

    Bwyta Allan

    Mae prosiect Bwyta Allan ar hyn o bryd yn cefnogi dros 50 o fwytai yng Nghonwy wledig. Dewch i ddarganfod tafarndai cefn gwlad a stafelloedd te o gymeriad, ciniawa’n chwaethus gyda golygfeydd deniadol neu bastai cartref swmpus o flaen tanllwyth o dân coed. Mae'n thema gyffredin i’r ystod eang o wahanol leoliadau - mae pob un yn falch tu hwnt o gynnyrch lleol gwych cefn gwlad Conwy.

    Os na fedrwch chi ddod i Wledd Conwy Feast, mae llyfryn Bwyta Allan wedi’i ddatblygu i gefnogi caffis a bwytai lleol trwy annog pobl leol yn ogystal â thwristiaid i fwyta allan wrth ymweld â’r ardal. Mae’r llyfr tywys ar gael bellach a cheir copïau yn y Canolfannau Croeso, llefydd Gwely a Brecwast a’r bythynnod gwyliau ledled Conwy wledig, neu fe gewch gopi o’n swyddfeydd yn y Glasdir yn Llanrwst.

    Mae ‘na alw mawr wedi bod am noson sinema awyr agored arall wedi llwyddiant ysgubol yr un diwethaf. Mae’r trefnwyr, Goleuo, yn falch o gyhoeddi y dangosir ‘The Lion King’ yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy ar ddydd Sadwrn, Hydref 12fed. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, felly cyrhaeddwch yn gynnar er mwyn sicrhau lle da i wylio o’ch car gan mai’r cyntaf i’r felin fydd hi. Mae parcio’n agor am 6.30yh ac mae’r ffilm yn cychwyn am 7yh.

    Fe gynhelir raffl ar y noson ac fe fydd popgorn a lluniaeth ysgafn ar werth gyda’r elw at Gylch Meithrin Bro Cernyw.

    Dyma ddywed Iola Roberts, Cadeirydd Cylch Meithrin Bro Cernyw:

    “Mae’r profiad o sinema awyr agored yn un unigryw i bawb o bob oed sy’n mwynhau ffilmiau. Does dim ond rhaid ichi diwnio radio’ch car i’r donfedd gywir ac fe gewch wrando ar y ffilm wrth ei wylio ar y sgrin fawr. Mae’r gefnogaeth a gafodd Mudiad Meithrin Bro Cernyw gan Goleuo i drefnu’r achlysur hwn wedi bod yn anhepgor a’r gobaith ydi y bydd pobl yn cefnogi’r Mudiad ar y noson trwy brynu popgorn, y lluniaeth ysgafn a’r tocynnau raffl. Ar ben hynny, rydyn ni wedi bod yn ffodus i dderbyn gwobrau raffl gwych yn amrywio o docynnau i Zip World a Tree Tops Adventures i deisennau gan Siwgr a Sbeis a Chinio Dydd Sul yn yr Holland Arms, i enwi dim ond rhai. Mae perchnogion Siop y Llan yn Llangernyw hyd yn oed wedi cyfrannu llefrith ar gyfer y Te a’r Coffi! Diolch i bawb sy wedi gweithio mor galed gyda’r trefniadau ac i’r rhai hynny sy wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd…dim ond cael pobl i ddod rŵan er mwyn gwneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant!”

    Digwyddiad neilltuol fydd hwn o’r math na welir yn aml yng Nghymru - mae’n werth ei weld!

    Dywed Sioned Davies o Goleuo, “Rydyn ni’n ffodus i gael y fath gefnogaeth gan Bartneriaeth Wledig Conwy, dan y Cynllun Datblygu Gwledig er mwyn cynnal digwyddiad fel hyn. Dyma ystyr cwbl newydd i ‘noson Sadwrn allan’ ac fe faswn i’n annog pawb i ddod. Fe ddylai hi fod yn noson i’w chofio.”

    Dangosodd prosiect ymchwil marchnata diweddar, gyda chefnogaeth Partneriaeth Wledig Conwy, bod gwir alw am gigoedd lleol – eidion, cig oen a bacwn – gan y diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn Llandudno. Sylw John Rooney, swyddog prosiect Conwy Cynhaliol oedd, "Mae’r canlyniadau’n dangos bod beth wmbredd o gynnyrch yn cael eu pwrcasu o’r tu allan i’r ardal. Yn fyw na hynny, wedi sgwrsio gyda rheolwyr gwestai, fe gawson ni fod yna awydd mawr i ddefnyddio cigoedd lleol lle bynnag bo hynny’n bosib.

    O’r arolwg hwn y daeth y syniad am gwmni ffermio cydweithredol. Y syniad ydi gweithio gyda grŵp o ffermwyr i werthu cig yn uniongyrchol o ffermydd. Gall Conwy Cynhaliol gynnig cefnogaeth gyda’r llad, bwtsiera a phrosesu’r cig."

    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â John Rooney - 01492 577836 neu conwycynhaliol@conwy.gov.uk